Dai Lingual yn gyrru’r newyddion adref!

Tan ddifrifol yn effeithio Eisteddfodwyr

 

Cafodd Eisteddfodwyr a oedd yn teithio adref i’r Barri o faes yr Eisteddfod neithiwr dipyn o sioc o weld pêl o dan yn amgylchynu Mercedes-Benz wrth ymyl B4265 ger Sain Tathan.

 

Yn ffodus, tadalafil dydi’r heddlu ddim yn credu bod unrhywun wedi eu hanafu yn y digwyddiad;er mi ddechreuodd y tân cyn 9.55yh ac roedd traffic yn parhau i yrru heibio’r car am yr ugain munud nesaf tan fod yna wasanaethau argyfwng yn cyrraedd.  Roedd gyrwyr eraill wedi dod allan o’u ceir i weld y fflamau’n cipio’r car tan yn ulw.

 

Nid oes yna esboniad eto o’r heddlu ynglyn a phwy na sut losgwyd y car;

roedd yr heddlu lleol a ddaeth i’r digwyddiad neithiwr yn ansicr taw achos o ladrata

a rasio ceir ydoedd gan taw hen gar Mercedes “N reg” ydoedd; gobeithio’n wir

nad yw’r arwyddocaol bod y dynion tân a brwydrodd y fflamau’n llwyddiannus

wedi dod o hyd i gerbyd baban ‘pram’ yng nghist y car a oedd wedi cael ei gymryd allan o’r car yn ystod y digwyddiad.

 

Mae’r olygfa o ddynion ifanc yn rasio ceir preifat ar hyd stryd Broad St yn y Barri yn ddigon cyffredin ar y penwythnosau ac mae perchnogion y busnesau lleol yn ofni damweiniau ffordd yn yr ardal yn sgil hyn, buy more about ond roedd y digwyddiad yma neithiwr ymhell o ganol y dref a hyd yn hyn dim ond un car sy’n cael ei archwilio.

 

Doedd neb wedi cael ei harestio neithiwr gan yr heddlu, mae’n debyg i’r sawl a oedd wedi parcio’r car gerdded dros y caeau sydd rhwng Sain Tathan a Thre-Befera i ddiogelwch.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *